1.      Cyflwyniad a chefndir

Mae’r BBC yn croesawu’r cyfle i roi sylwadau ar ei berthynas gydag S4C – perthynas gref sydd wedi bod yn werthfawr i gynulleidfaoedd yng Nghymru ers 1982.

Mae’r papur hwn yn disgrifio partneriaeth greadigol BBC Cymru gydag S4C, ac yn egluro y berthynas rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C.

Rydym yn edrych ymlaen at yr Adolygiad Annibynnol o S4C gan y bydd yn gyfle i drafod rôl cyfryngau cyfrwng Cymraeg o fewn cyd-destun sy’n symud yn gyflym.

2       Rhaglenni’r BBC ar gyfer S4C

Wrth galon perthynas y BBC gydag S4C mae’r hyn a elwir ‘y rhaglenni a gyfrennir’. Mae Deddf Darlledu 1990 yn nodi fod angen i’r BBC ddarparu dim llai na 520 o oriau o gynnwys y flwyddyn i S4C. Mae’r bartneriaeth greadigol wedi bod wrth galon darlledu cyfrwng Cymraeg ers 1982, ac yn cefnogi pwrpasau cyhoeddus y ddau sefydliad..

Mae’r rhaglenni yn cynnwys newyddion, materion cyfoes, chwaraeon byw, Pobol y Cwm a sylw eang i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Gwerth y rhaglenni yma yn y flwyddyn 2017/18 fydd £19.4m.

2.1     Newyddion a Materion Cyfoes

Mae’r rhaglen Newyddion am 9 o’r gloch yn parhau wrth wraidd ein darpariaeth ar gyfer S4C. Mae’r rhaglen Newyddion 9 yn gosod safon uchel ac mae gwerthfawrogiad y gynulleidfa a’r ffigurau gwylio wedi cynyddu’n raddol dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Gyda Bethan Rhys Roberts a Rhodri Llywelyn wrth y llyw, mae'r rhaglen yn dadansoddi prif straeon newyddion y dydd. Mae’n torri tir newydd hefyd gydag adroddiadau ar straeon gwreiddiol o Gymru.

Mae rhaglenni materion cyfoes a newyddion eraill yn cynnwys y sioe banel sy’n trafod materion cyfoes, Pawb a’i Farn, a gyflwynir gan Dewi Llwyd. Rydym hefyd yn darparu rhaglenni byw o gynadleddau pleidiau gwleidyddol. Daeth Y Sgwrs i ben ym mis Gorffennaf 2016 a bydd rhaglen wleidyddol newydd ganol wythnos, O’r Senedd yn darlledu o ddiwedd mis Chwefror ymlaen, gan ganolbwyntio ar rai o bynciau gwleidyddol llosg yr wythnos.

Bob diwrnod o’r wythnos waith, rydym hefyd yn darparu bwletin newyddion tua 6pm, sef Ffeil, sydd wedi ei deilwra’n arbennig ar gyfer pobl ifanc

Cynhyrchwyd rhaglen o ganlyniadau byw etholiad y Cynulliad Cenedlaethol dros nos ym mis Mai 2016 ar gyfer S4C.

2.2 Drama

Mae Pobol y Cwm yn dilyn hynt a helynt cymuned Cwmderi ac mae wedi hen arfer delio â themâu anodd a straeon dadleuol. Mae’r rhain yn cynnwys alcoholiaeth a thrais yn y cartref. Mae Pobol y Cwm wedi derbyn gwobrau cenedlaethol gan yr elusen Mind am y ffordd mae wedi portreadu rhai i’r materion dyrys hyn.

Hi yw y gyfres ddyddiol sy’n darlledu drwy’r flwyddyn mwyaf poblogaidd ar S4C ac mae’n gonglfaen i’r amserlen nosweithiol.

2.3 Chwaraeon

Mae chwaraeon byw yn rhan fawr o’n cyflenwad rhaglenni i S4C. Yn flynyddol, mae’n cynnwys gemau rygbi’r Pro 12, gemau cartref Cymru yn nghystadleuaeth y Chwe Gwlad yn fyw, yn ogystal â gemau rhyngwladol yr Hydref.

Denodd gemau rygbi byw y Pro 12 yn y rhaglen Clwb Rygbi gynulleidfa o 54,000 ar gyfartaledd yn 2016 ac fe gynyddodd hyn wedi i’r gemau ddychwelyd i slot prynhawn Sadwrn (o brynhawn dydd Sul) ym mis Medi 2016.

Roedd y llynedd yn flwyddyn arbennig o gyffrous ym myd chwaraeon wrth i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru gyrraedd gemau go-gynderfynol cystadleuaeth  Ewro 2016. Darparodd BBC Cymru raglenni byw o bedair o gemau Cymru, yn ogystal â chynnwys digidol ar gyfer platfformau eraill. 

2.4     Eisteddfod Genedlaethol

Mae sylw i Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn parhau yn gonglfaen ein rhaglenni ar gyfer S4C a’r llynedd cafodd y rhaglenni eu darparu mewn HD am y tro cyntaf. Defnyddir cyflwynwyr arbenigol a rhai newydd  gyda chyfanswm o oddeutu 100 awr o sylw cynhwysfawr i'r ŵyl. Mae’r rhaglenni’n gymysgedd o gystadlaethau a dadansoddi a golwg ysgafnach ar y Maes a’r gweithgareddau ymylol.

2.5     Rhaglenni ffeithiol

Rydyn ni hefyd yn darparu nifer fechan o raglenni ffeithiol i S4C, gan gynnwys rhaglenni Cymraeg a Saesneg cyfatebol fel rhaglen ddogfen Huw Edwards ar Batagonia. Mae sylw i BBC Canwr y Byd Caerdydd hefyd yn gynhyrchiad cefn-wrth-gefn  a fydd yn dychwelyd i’n sgrîn ym mis Mehefin 2017.

2.6         Cydweithio golygyddol pellach

Y tu hwnt i’r 520 awr statudol, mae BBC Cymru yn gweithio’n agos gydag S4C ar brosiectau rhaglenni sy’n gallu bod o fudd i gynulleidfaoedd Cymraeg neu Saesneg eu hiaith. Er enghraifft, mae cyfres ddrama Hinterland/Y Gwyll wedi ei gyd-gomisiynu gan y BBC ac S4C, ac mae bellach yn cael ei dosbarthu ar draws y byd. Mae dramâu a rhaglenni ffeithiol tebyg yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Oriau gwreiddiol BBC Cymru ar S4C yn ôl genre 2015/16

Genre

Awr

Drama, Comedi, Adloniant, Cerddoriaeth, Celfyddydau

168

Newyddion a Materion Cyfoes

264

Chwaraeon

81

Addysg, Ffeithiol a Chrefyddol

3

Plant

0

Ailddarllediadau

100

Cyfanswm Oriau

616

 

Mae cynnwys y BBC ar gyfer S4C yn cael ei gynhyrchu gan dimau cynhyrchu mewnol ac yn ategu’r rhaglenni sy’n cael eu cynhyrchu’n annibynnol sef gweddill gwasanaeth S4C.

3       Perfformiad

Mae rhaglenni’r BBC wrth galon amserlen S4C. Fel sydd wedi ei nodi eisoes, mae ein cyfraniad yn cynnwys Newyddion 9, y ddrama nosweithiol Pobol y Cwm, rygbi domestig a rhyngwladol byw a sylw helaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol. At ei gilydd, mae cynyrchiadau'r BBC ar S4C yn cyfrannu 37% o oriau gwylio S4C

-        Denodd y darllediadau o gemau rygbi byw y Pro12 yn y rhaglen Clwb Rygbi gynulleidfa o 54,000 ar gyfartaledd yn 2016.

-        Mae'r brif raglen newyddion gyda’r nos Newyddion 9 yn denu cynulleidfa o 21,000 ar gyfartaledd, sy’n uwch na’r blynyddoedd blaenorol oherwydd bod y rhaglen wedi datblygu agenda benodol ar Gymru.

-        Mae’r opera sebon dyddiol, Pobol Y Cwm, yn denu cynulleidfa o 43,000 i gyd wrth ddarlledu'r prif raglenni a’u hailadrodd y diwrnod canlynol.

-        Mae cynnwys S4C ar BBC iPlayer yn cael ei weld dros 100,000 gwaith bob wythnos, ac mae hyn yn cyfrannu hyd at 3% o gyfanswm oriau gwylio S4C.

4       Darparu gwerth ychwanegol i S4C

Y tu hwnt i’r costau uniongyrchol o gynhyrchu 520 o raglenni i S4C, mae’r BBC yn darparu gwerth ychwanegol i’r sianel mewn nifer o ffyrdd arwyddocaol.

Mae’r ffynonellau ychwanegol yn cynnwys:

-        Mynediad at wasanaeth casglu newyddion y BBC – Mae’r rhaglen newyddion Newyddion 9, sy’n cael ei chynhyrchu gan y BBC ar gyfer S4C, yn gallu cael mynediad at wasanaeth casglu newyddion y BBC ar draws y byd am ddim cost ychwanegol er mwyn adrodd ar y prif ddigwyddiadau rhyngwladol e.e. etholiadau 2016 UDA, yr argyfwng mudwyr yn Ewrop.  

-        Rhaglenni Chwaraeon - Mae'r BBC yn darparu rhaglenni chwaraeon rhyngwladol byw i S4C heb basio costau’r hawliau ymlaen. Mae hyn yn cynnwys hawliau i raglenni byw o’r Chwe Gwlad, gemau rhyngwladol yr Hydref ac Ewro 2016

-        Mynediad at iPlayer – Mae S4C yn sianel iPlayer lawn ac o ganlyniad yn rhoi mynediad at oddeutu 1,200 o ddyfeisiau sydd wedi eu cysylltu gydag iPlayer. Mae cost iPlayer i S4C ar sail ‘nid er elw’ gan gydnabod y bartneriaeth unigryw sy’n bodoli rhwng y BBC ac S4C

-        Mynediad at Archif y BBC – Mae gan raglenni a gomisiynir gan S4C yr hawl ddefnyddio archif rhaglenni BBC Cymru Wales ar delerau nad ydynt ar gael i ddarlledwyr eraill

5.      Y Sgwâr Canolog a’r Egin

Bydd BBC Cymru yn adleoli ei phrif ganolfan gynhyrchu i’r Sgwâr Canolog, yng nghanol dinas Caerdydd yn 2019.  Yn sgil y datblygiad hwn, bydd staff BBC Cymru sy’n gweithio yn y safle presennol yn Llandaf yn symud i’r ganolfan newydd sydd gyferbyn â gorsaf Drenau Caerdydd Canolog.

Mae’r isadeiledd technoleg Llandaf wedi dyddio ac mae gweithio mewn adeilad sydd wedi’i osod allan yn wael yn cyfyngu ar y staff. Bydd yr adeilad newydd yn hanner maint y cyfleusterau presennol a bydd y dechnoleg newydd yn golygu y bydd yn rhatach i gynnal ein gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein. Fel rhan o’r datblygiad newydd, fe amcangyfrifir y bydd oddeutu 20 o staff S4C yn cyd-leoli yn yr adeilad newydd ac mae cynlluniau ar droed i rannu’r gwasanaethau darlledu gyda S4C er mwyn arbed costau gweithredol i’r ddau ddarlledwr. Mae disgwyl i’r trafodaethau rhwng y darlledwyr gwblhau’n fuan.

Bydd S4C hefyd yn adleoli ei bencadlys i ganolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin yn ystod y blynyddoedd nesaf. Rydym wrthi’n trafod â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ddichonolrwydd adleoli ein staff sydd yn y stiwdio yng Nghaerfyrddin i ganolfan Yr Egin ac mae’r trafodaethau ariannol a gweithredol hynny yn dal i fynd rhagddynt gyda’r Brifysgol.

5. Ariannu S4C drwy ffi’r drwydded

Yn ogystal â chyflenwad statudol o raglenni gan y BBC, mae S4C hefyd yn derbyn arian yn uniongyrchol o ffi’r drwydded gan Ymddiriedolaeth y BBC, gwerth £74.5m y flwyddyn i S4C yn 2017/18. Mae’r ffigwr yma yn sefydlog tan ddiwedd cyfnod ffi’r drwydded bresennol yn 2021/22.

Mae Siarter Frenhinol newydd y BBC (2017) yn cadarnhau y dylai Ffi'r Drwydded barhau i gefnogi a darparu S4C, a bod yn sail i hynny. Mae’r Siarter hefyd yn nodi y dylai y ‘BBC ac S4C rannu’r nod o gydweithio i arsylwi a diogelu annibyniaeth y ddau, ac i wneud y defnydd gorau o’r ariannu er mwyn gwarchod buddiannau cynulleidfaoedd (yn enwedig y rheiny sy’n siarad Cymraeg), cyn belled â bod hynny’n gyson gyda rhwymedigaethau y ddau.’[1]

6. Trefniadau atebolrwydd i’r dyfodol

Mae dwy ddogfen yn sail i’r ffordd y gweinyddir y bartneriaeth bresennol rhwng y ddau ddarlledwr.

Yr un cyntaf yw’r Cytundeb Gweithredu sy’n bodoli rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C. Mae hwn yn canolbwyntio ar y berthynas o ariannu uniongyrchol rhwng yr Ymddiriedolaeth a’r Awdurdod. Yr ail yw’r ddogfen ‘Partneriaeth Strategol’. Mae hwn yn gosod allan sut y caiff y rhaglenni sy’n cael eu cyfrannu eu cyflenwi gan BBC Cymru 

Mae’r ddau yn dirwyn i ben yn fuan ac angen eu diweddaru i adlewyrchu model llywodraethiant newydd y BBC. Mae’r BBC ac S4C wrthi’n trafod ar hyn o bryd y trefniadau atebolrwydd newydd a fydd yn cymryd y Siarter newydd i ystyriaeth ac, yn enwedig, sefydlu Bwrdd Unedol newydd i’r BBC.  Y disgwyl yw mai canlyniad y broses hon fydd un trefniant atebolrwydd symlach a fydd yn cwmpasu agweddau rhaglenni a chyllidebol y bartneriaeth. 



[1] BBC Charter Framework Agreement (2017), t39.  http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/files/pdf/about/how_we_govern/2016/agreement.pdf